Mae problem

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i wybodaeth Llywodraeth Cymru am ReAct+ a gwasanaethau cysylltiedig.

Mae gan bob gwasanaeth ei dudalen hygyrchedd ei hun. Mae’r tudalennau yn egluro pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat arall. Gallwch fynd i’r tudalennau hyn o’r troedyn ar dudalennau gwe y gwasanaeth.

Defnyddio’r wefan hon

Caiff y wefan hon ei chefnogi gan Dîm Digidol SHELL. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Adeiladwyd y wefan hon i gydymffurfio'n llawn â safonau AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.

Adborth a manylion cyswllt

Mae’r wybodaeth ar y wefan hon ar gael mewn fformat arall fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille drwy gysylltu drwy un o’r dulliau canlynol:

Er mwyn ein helpu i ddiwallu eich anghenion yn well, rhowch wybod inni ym mha fformat arall yr hoffech chi dderbyn gwybodaeth gennym, neu os ydych chi’n defnyddio technoleg gynorthwyol.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi eto cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Os na allwch ddod o hyd inni drwy’r cyfeiriad ar y dudalen Cysylltwch â ni, neu ffoniwch neu anfonwch e-bost i ofyn am gyfarwyddiadau.

Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig ag hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â :ReActPlws@llyw.cymru

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS)..

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n F/fyddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam lleferydd.

Mae dolenni sain i’w cael yn ein swyddfeydd, neu os gysylltwch chi â ni cyn ichi ymweld gallwn drefnu bod dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn bresennol.

Ewch i’r dudalen cysylltwch â ni..

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod..

PDF a dogfennau eraill

Dylai dogfennau newydd rydym yn eu cyhoeddi i gael mynediad at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.

Llunio’r Datganiad Hygyrchedd hwn

Lluniwyd y datganiad hygyrchedd hwn ar 25ain Mai 2022.

Gwasanaethau SHELL

Mae gan bob gwasanaeth ei dudalen hygyrchedd ei hun, gyda manylion ynglŷn â hygyrchedd y gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat arall. Gallwch fynd i’r tudalennau hyn o’r troednodyn yn y gwasanaeth.

Paratowyd y datganiad hwn ar 25ain Mai 2022.