Mae problem

Yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR) mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn amlinellu sut yr ydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth ac yn nodi y bydd eich data personol yn cael eu prosesu'n deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.

Er mwyn i chi dderbyn cefnogaeth gan raglen ReAct+, mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru gasglu data personol a data categori arbennig gennych chi. Byddwn yn casglu categorïau arbennig o ddata personol amdanoch chi, ac mae hyn yn cynnwys manylion am eich hil neu ethnigrwydd, gwybodaeth am eich iechyd, a'ch statws troseddwr/cyn-droseddwr lle bo hynny'n berthnasol.

Rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau; Mae hyn yn cynnwys cwestiynau lle mae'n well gen i beidio â dweud' yn ateb dewisol.

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu

Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a ddarperir gennych yng nghyswllt Rhaglen ReAct+ Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Pa ddata personol y byddwn yn eu casglu a'u prosesu?

Diffinnir data personol o dan GDPR y DU fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Ar gyfer y rhaglen ReAct+ byddwn yn casglu'r data personol canlynol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhifau ffôn cyswllt
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Dyddiad geni

Data categori arbennig

O dan Erthygl 9(2)(a) o GDPR y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu data categori arbennig dim ond pan fydd gwrthrych y data wedi rhoi caniatâd penodol i brosesu'r data personol hynny at un diben penodol neu fwy.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i wneud y canlynol:

  • I brosesu eich cais am grant, sefydlu'r cymorth mwyaf addas sydd ar gael i chi, a dyrannu cyllid
  • I fonitro ac adrodd ar nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn prosiectau/rhaglenni a nifer y bobl o wahanol grwpiau sy'n derbyn cymorth (e.e. oedran, rhyw ac ethnigrwydd)
  • I gynnal prosesau cyllido, cynllunio, monitro ac arolygu hyfforddiant a dysgu,
  • I gynhyrchu cyhoeddiadau ystadegol dienw

Pwy fydd yn cael gweld eich data:

Caiff Llywodraeth Cymru rannu eich data personol gyda'r sefydliadau canlynol:

  • Cymru'n Gweithio/Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith i gefnogi'ch cais a rhoi'r cyngor a'r arweiniad gorau i chi yn ôl eich anghenion;
  • Archwilwyr i asesu a yw'r prosiect/rhaglen wedi dilyn y gweithdrefnau cywir..

Er mwyn ein helpu i ddeall effeithiolrwydd y rhaglen, gellir defnyddio eich manylion cyswllt at ddibenion ymchwil a gwerthuso, gan gynnwys pan fydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu contractwr annibynnol at ddibenion gwerthuso'r rhaglen. Sylwch mai dim ond sampl o unigolion a/neu fentrau y bydd sefydliadau ymchwil/gwerthuswyr yn cysylltu â nhw.

Eich dewis chi yn llwyr yw p'un a ydych am gymryd rhan yn y gwaith hwn ai peidio. Mae'n gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi eich cyfranogiad gan fod eich barn a'ch profiadau yn bwysig i lywio gwelliant sefydliadol.

Dim ond ar gyfer ymchwil gymeradwy y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio a byddan nhw’n cael eu dileu pan fydd yr ymchwil gymeradwy hon wedi’i chwblhau.

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag asiantaeth atal twyll at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian. Os canfyddir twyll, mae'n bosibl y gwrthodir rhoi gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth benodol i chi yn y dyfodol.

Sut rydym yn cadw eich data yn ddiogel

Bydd data personol a roddir i Lywodraeth Cymru un cael eu cadw ar weinyddion diogel yn y DU. Mae ffolder wedi'i chreu ar gyfer Rhaglen ReAct+ a dim ond y staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect hwn sydd â mynediad ati. Bydd eich manylion cyswllt ac unrhyw ddata personol y byddwch wedi dewis eu rhoi inni yn cael eu cadw yn y ffolder hon.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data sy'n cael eu hamau. Os amheuir bod achos o dorri rheolau diogelwch data wedi digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo’n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Ar ôl i chi adael y rhaglen

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy holiadur i werthuso effaith y rhaglen. Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch ar ôl i chi adael y rhaglen yn cael ei defnyddio i ddiweddaru'r cofnodion sydd gennym eisoes amdanoch.

Am ba hyd y cedwir eich manylion

Bydd eich data personol yn cael eu cadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru am hyd at 7 mlynedd yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru ac ar ôl hynny bydd yn cael eu dinistrio'n ddiogel. Efallai y byddwn yn dileu'r wybodaeth yn gynt os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.

Eich hawliau unigol

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a’u gweld
  • mynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn am i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau)
  • gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol dros diogelu data

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn cysylltwch a reactplus@llyw.cymru.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113)
Gwefan:www.ico.org.uk